
Eisteddodd Randalph Ddoeth yn ei gadair, gan grafu ei ben llwyd henaidd, a meddwl am y cwestiwn mawr iawn. “Beth sydd wir yn bwysig?” gofynnodd i’r ystafell wag mewn llais dwfn, trwm.
… Dyna’r ffordd y dechreuodd Randalph Ddoeth ei ymchwil ysbrydol a’i chwiliad am ystyr.
Teithiau Randalph Ddoeth
Mae Randalph Ddoeth yn chwilio am atebion i’r cwestiwn mawr iawn. Mae eisiau gwybod, ‘Beth sydd wir yn bwysig?’ Mae’r cwestiwn hwn yn mynd â Randalph Ddoeth ar siwrnai drwy Gymru.
Ar ei deithiau, mae’n dod o hyd i rai lleoedd a phobl arbennig i’w helpu gyda’i ymchwil. Mewn sawl ffordd, dim ond dechrau siwrnai yw hyn, wrth i Randalph Ddoeth ein herio i ymwneud â’r cwestiwn mawr ein hunain, ac i gychwyn ar eu teithiau newydd ein hunain.
Ymunwch ag ef ar ei deithiau trwy:
- ddarllen ei storïau;
- gwylio ei ffilm;
- a gwrando ar ei gerddoriaeth.
Felly, beth sydd wir yn bwysig?