Amdanom ni

Cyfres Ymchwil Ysbrydol Randalph a’i Chwiliad am Ystyr

Sail y gyfres Ymchwil Ysbrydol Randalph a’i Chwiliad am Ystyr yw adnodd cwricwlwm a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ar gyfer dysgwyr 8 i 11 oed. Bwriad y gyfres yw cefnogi ysgolion i gyflawni’r Cwricwlwm ar gyfer Cymru. Mae ei dull hyblyg sy’n seiliedig ar ymholi yn ei gwneud hefyd yn berthnasol i lawer o gyd-destunau Addysg Grefyddol y tu hwnt i Gymru. Cyhoeddir y gyfres gan Bear Lands Publishing (Canolfan y Santes Fair, Cymru) mewn cydweithrediad â Chanolfan San Silyn a Phrifysgol Esgob Grosseteste, Lincoln. Ariannwyd a datblygwyd y wefan hon gan Ganolfan y Santes Fair, Cymru er mwyn creu platfform hygyrch y gall dysgwyr ac athrawon gyrchu’r gyfres hon oddi arno. Y bwriad yw y bydd y platfform hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach gan Ganolfan y Santes Fair yn ôl fel bydd yr adnoddau’n caniatáu.

Bear Lands Publishing

Argraffnod yn perthyn i Ganolfan y Santes Fair, Cymru yw Bear Lands Publishing.

bear lands publishing logo

Canolfan y Santes Fair

Sefydliad ymchwil, wedi’i wreiddio yng Nghymru, ac sy’n gweithio ym meysydd eang crefydd ac addysg yw Canolfan y Santes Fair. Un o nodau craidd y Ganolfan yw cynhyrchu adnoddau o ansawdd i ysgolion am ddim, gan gysylltu ymchwil ac ymarfer. Mae Canolfan y Santes Fair yn bodoli o fewn Canolfan y Santes Fair a Sant Silyn, elusen gofrestredig, rhif cofrestru 1141117.

Prifysgol Esgob Grosseteste

Mae hanes hir o ymwneud ag addysg y perthyn i Brifysgol Esgob Grosseteste, Lincoln, ac mae’n un o brifysgolion Grŵp yr Eglwysi Cadeiriol.

Canolfan San Silyn, Wrecsam

Mae Canolfan San Silyn yn gweithio gyda dysgwyr ac athrawon yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae harbenigeddau yn cynnwys Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a’i rhiant-bynciau, yn ogystal â meysydd cysylltiedig. Mae Canolfan San Silyn, Wrecsam, wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i ddatblygiad y gyfres hon.

%d bloggers like this: