Athrawon

Adnodd a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yw’r gyfres Ymchwil Ysbrydol Randalph a’i Chwiliad am Ystyr, adnodd sy’n cefnogi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ar gyfer dysgwyr 8 i 11 oed o fewn Maes y Dyniaethau yn y Cwricwlwm i Gymru.
Nod y dull pedagogaidd a amlygir yn y gyfres hon yw ysbrydoli athrawon i fod yn greadigol ac yn hyderus wrth ddatblygu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ystyrlon a heriol yng nghwricwlwm yr ysgol. Wedi’i llunio ar gyfer y cyd-destun dysgu yng Nghymru (lle mae athrawon ac ysgolion yn cael mwy o ymreolaeth wrth drefnu’r cwricwlwm a dewis cynnwys) mae dull agored, seiliedig ar ymholiad, y gyfres Ymchwil Ysbrydol Randalph a’i Chwiliad am Ystyr yn ei gwneud yn berthnasol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg ledled ysgolion yng Nghymru, yn ogystal â Lloegr a thu hwnt.
Mae Canolfan y Santes Fair, Cymru, yn cymryd rhan weithredol mewn ymchwil academaidd yn ymwneud â phobl ifanc, crefydd ac addysg, ac mae’r arbenigedd hwn yn llywio ymarfer yn ein holl brosiectau datblygu cwricwlwm, gan gynnwys y gyfres Ymchwil Ysbrydol Randalph a’i Chwiliad am Ystyr. Mae Canolfan San Silyn, Wrecsam, wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i ddatblygiad y gyfres hon.
Canllaw i Athrawon
Mae Canllaw i Athrawon yn cynnwys:
- Cyflwyno Addysg Grefyddol
- Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y Dyniaethau
- Cysyniadau o fewn Maes y Dyniaethau
- Iaith Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
- Cyflwyno Randalph Ddoeth
- Adnoddau’r llyfrau stori
- Cysylltau defyddiol i themau y llyfr stori
Noder: Mae Canllaw i Athrawon wedi’i ddiweddaru’n llawn ym mis Tachwedd 2022.
